Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 1 Chwefror
2017
Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV
yn:
http://senedd.tv/cy/4080
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 2 - 11. Tynnwyd cwestiwn 1 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 3.
Dechreuodd yr eitem am 14.15
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Ni chyflwynwyd unrhyw geisiadau.
Dechreuodd yr eitem am 15.10
Dechreuodd yr eitem am 15.37
NDM6220
Dai Lloyd
(Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn
nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar
yr ymchwiliad i barodrwydd ar gyfer y gaeaf 2016-17, a
osodwyd
yn y
Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2016.
Nodyn:
Gosodwyd
ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a
Chwaraeon i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 25 Ionawr
2017.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog
12.36.
Dechreuodd yr eitem am 16.23
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan
yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM6223
Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn credu bod gwasanaethau gofal cymdeithasol da yn chwarae rhan
hanfodol o ran cadw'r GIG yn gynaliadwy.
2.
Yn nodi bod gofalwyr di-dâl yn gwneud cyfraniad hanfodol o
ran sicrhau cynaliadwyedd gofal iechyd a gofal cymdeithasol ac na
chaiff ei werthfawrogi ac yn gresynu at y gostyngiad yn nifer y
nosweithiau o ofal seibiant a ddarparwyd ers 2011.
3.
Yn credu y gallai ysbytai cymuned chwarae rhan hanfodol o ran
darparu gofal seibiant, a hwyluso'r broses bontio yn ôl i
ofal iechyd cymunedol ar gyfer y rhai sydd wedi bod angen gofal
mewn ysbyty.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wyrdroi'r arfer o gau ysbytai cymuned
ac archwilio ffyrdd o adfer argaeledd gwelyau i'w defnyddio gan
wasanaethau gofal iechyd a gofal cymdeithasol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
19 |
0 |
32 |
51 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y Gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.Jane
Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu'r cyfan ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad gofalwyr di-dâl i'r system iechyd a gofal cymdeithasol.
Yn
credu y dylai gofal seibiant fod yn hyblyg ac y gallai ddigwydd
mewn amrywiaeth eang o leoliadau, gan gynnwys yn y cartref ac yn y
gymuned ehangach.
Yn
nodi bod ysbytai cymunedol yn un o nifer o leoliadau a all chwarae
rhan yn darparu gofal seibiant a gofal amrywiol wrth i gyflyrau
waethygu neu wella.
Yn
croesawu:
a)
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull gweithredu
cenedlaethol ar gyfer gofal seibiant er mwyn sicrhau bod y gofal
hwnnw'n ymateb i anghenion unigolion mewn ffordd gyson ar draws
Cymru;
b) y
buddsoddiad mewn gwasanaethau gofal ychwanegol a wnaed yn bosib
drwy'r Gronfa Gofal Canolraddol gwerth £60m yn 2017-18;
ac
c) y
gronfa newydd gwerth £40m a gyhoeddwyd yng Nghyllideb 2017-18
i ddatblygu canolfannau integredig iechyd a gofal cymdeithasol
newydd ar draws Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
0 |
13 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2.Paul
Davies (Preseli Sir
Benfro):
Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:
ac
yn cydnabod rôl y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ran
lleihau'r galw diangen am ofal cymdeithasol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
1 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3.Paul
Davies (Preseli Sir
Benfro):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn
galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r
Cynulliad ynghylch gweithredu Adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, o ran diwallu anghenion
seibiant gofalwyr.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
51 |
0 |
1 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM6223
Rhun ap Iorwerth (Ynys
Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn credu bod gwasanaethau gofal cymdeithasol da yn chwarae rhan
hanfodol o ran cadw'r GIG yn gynaliadwy ac yn cydnabod rôl y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol
o ran lleihau'r galw diangen am ofal
cymdeithasol.
2. Yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad gofalwyr di-dâl i'r system iechyd a gofal cymdeithasol.
3.
Yn credu y dylai gofal seibiant fod yn hyblyg ac y gallai ddigwydd
mewn amrywiaeth eang o leoliadau, gan gynnwys yn y cartref ac yn y
gymuned ehangach.
4.
Yn nodi bod ysbytai cymunedol yn un o nifer o leoliadau a all
chwarae rhan yn darparu gofal seibiant a gofal amrywiol wrth i
gyflyrau waethygu neu wella.
5.
Yn croesawu:
a)
ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull gweithredu
cenedlaethol ar gyfer gofal seibiant er mwyn sicrhau bod y gofal
hwnnw'n ymateb i anghenion unigolion mewn ffordd gyson ar draws
Cymru;
b) y
buddsoddiad mewn gwasanaethau gofal ychwanegol a wnaed yn bosib
drwy'r Gronfa Gofal Canolraddol gwerth £60m yn 2017-18;
ac
c) y gronfa newydd gwerth £40m a gyhoeddwyd yng Nghyllideb 2017-18 i ddatblygu canolfannau integredig iechyd a gofal cymdeithasol newydd ar draws Cymru.
6.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r
Cynulliad ynghylch gweithredu Adran 35 o Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, o ran diwallu anghenion
seibiant gofalwyr.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
38 |
0 |
14 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
Daeth y cyfarfod i ben am 18.03
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 7 Chwefror 2017